Y teimlad sy'n hala pobol i anghofio amser
Y teimlad sy'n hala chi feddwl nad yw'r dyfodol mor fler
Y teimlad sy' yn dod ac yn sbarduno gobaith
Chi'n gweld y tywod, llwch, ond chi'n gweld fod yna flodau
Y teimlad, beth yw y teimlad?
Y teimlad sydd heb esboniad
Y teimlad, beth yw y teimlad?
Y teimlad sy'n cael ei alw'n gariad
Cariad, cariad, y teimlad
Beth yw y teimlad?
Mae hapusrwydd yn codi ac yn troi yn wir rhywbryd
Ac mae'n dangos fod yna rhywbeth mewn hyd yn oed dim byd
A pan mae'r teimlad yno mae bywyd yn werth parhau
Ond yn ei absenoldeb mae'r diweddglo yn agosau
Y teimlad, beth yw y teimlad?
Y teimlad, sydd heb esboniad?
Y teimlad, beth yw y teimlad?
Y teimlad, sy'n cael ei alw'n gariad
Cariad, cariad, cariad