Gazpacho

By Datblygu

On Libertino

Thumbnail

Aros am focs pren mewn car du i gymryd rhai eraill cyn ein cymryd ni

Rwy'n hapus fan yma efo'r gwin yn fy nghwpan

Sa' i am fynd i America, dwi wedi darllen [?]

Fy hunllefau ar dap, fy hunllefau mewn inc

Mor boenus ac amlwg â'r twll yn fy sinc

Rwy'n taflu'r teipiadur a'r radio i'r gwter

Anwybyddu y barbwr a dweud hwyl fawr i'r rasel

Bastard anobeithiol oedd fy enw canol

Cyn i fi ei enwi yn rhywbeth gwahanol

Cantorion fel fi, wel, ni methu canu

Dim ond edmygu angel â dim amdani

Actorion fel fi, ni methu actio

Jyst dweud y gwir, caru, trystio

A pisho gazpacho ar fedd Valentino

Yfed a smygu a rhyfeddu, dihuno

Dwi byth yn cael gormod, byth yn cael digon

O pisho y gwin mewn i Fae Ceredigion

Pisho gazpacho ar fedd Valentino

Rwy jyst yn pisho gazpacho ar fеdd Valentino

Tra fod rhai yn lladd moch, a rhai yn prisio tato

Rwy jyst yn pisho gazpacho ar fedd Valentino

Caru, trystio, caru, trystio

A pisho gazpacho ar fеdd Valentino

Methu troi y dŵr yn win

Rwy methu troi y dŵr yn win

Ond rwy'n troi y gwin yn ddŵr fy hun

Hei cariad, dal fy llaw, rwy'n rhyfeddu ti yma

Cusana fi eto, dwi am droi yn froga

A sa' i byth wedi treisio, dwi jyst wedi trystio

Nawr dwi'n pisho gazpacho ar fedd Valentino

Mae'r gwleidyddiaeth yn chwydu o'r blydi radio

Diana Ross yn chwydu o'r blydi radio

A nid oes terfysgaeth, na heddlu ffug

Nid oes llywodraeth mewn Cymru Rhydd

A hwn yw'r jazz, o straen y caneuon

Rwy'n ceisio ysgrifennu Beibl i'r deillion

Cysgod Gene Vincent yn fy siaced ledr

Etifeddais ei boen, etifeddais ei hunllef

Ar noson fel heno, rwy wedi danto

Ar pisho gazpacho ar fedd Valentino

A hwn yw'r jazz o straen y caneuon

Dwi jyst yn ceisio ysgrifennu Beibl i'r deillion

Tra'n aros am y bocs pren mewn car du

I gymryd nhw cyn cymryd fi

O rwy'n pisho gazpacho

Pisho gazpacho