Dim Deddf, Dim Eiddo

By Datblygu

On Libertino

Thumbnail

Dim deddf, dim eiddo

Dim deddf, dim eiddo

Dim deddf, dim eiddo

Dim deddf, dim eiddo

Hwnna meddyliodd pethau mawr iawn am yr iaith Gymraeg

Tra'n darllen Proust dros ei swper porc a thatws

Roedd yn aros am y tro nesa mewn parti canapé champagne fflat

Bydde fe digon ar ddihun i osgoi gwneud ffŵl o'i hun

Tra'n trafod arddulliau llymdod Saunders Lewis

Gyda dyn mewn cravat

Byddai'n ysu i gnychu gwraig y dyn fyddai'n eistedd gyferbyn

Dim deddf, dim eiddo

Dramateiddio (Dim deddf, dim eiddo)

Rhwng y sgrwbio a'r sgriwio (Dim deddf, dim eiddo)

Yr yfed a'r ciwio (Dim deddf, dim eiddo)

Honna mynodd ar bob cyfrif

Ysgrifennu ei sieciau yn uniaith Gymraeg

Hi oedd Sipsi un wythnos y flwyddyn, carafan drud

Tra roеdd ei phlant Eurgain a Dan Anfantais

Yn indiaid coch y maes pebyll

Roеdd yn gweld y byd trwy gyfrwng sleidiau

Noson goffi gwan Merched yr Oriawr

Dim deddf, dim eiddo

Dramateiddio (Dim deddf, dim eiddo)

Rhwng y sgrwbio a'r sgriwio (Dim deddf, dim eiddo)

Yr yfed a'r ciwio (Dim deddf, dim eiddo)

A fi, rwy'n anwybyddu bob pwll pêl-droed

Y pybs a'r farchnad stoc

Rwy'n gweld Richard Pitman am beth yw e a dweud

"Diolch yn fawr, Mam Natur

Rwyf yn ddiolchgar nad oes gen i wraig gormesol

Sy'n credu yn y siop slop persawr ugain punt y smotyn"

Ond rwy'n cofio nhw'n bloeddio "Deddf Eiddo"

A meddwl na fyddwn yn ei charu hi eto

Dim deddf, dim eiddo

Dramateiddio (Dim deddf, dim eiddo)

Rhwng y sgrwbio a'r sgriwio (Dim deddf, dim eiddo)

Yr yfed a'r ciwio (Dim deddf, dim eiddo)

Dim deddf, dim eiddo

Dim deddf, dim eiddo

Dim deddf, dim eiddo

Dim deddf, dim eiddo

Dim deddf, dim eiddo

Dim deddf, dim eiddo

Dim deddf, dim eiddo

Dim deddf, dim eiddo