Cerdd(or)iaith

By Datblygu

On Erbyn Hyn

Thumbnail

Cerdd o'r iaith

Sŵn gemau pêl heb llawer o ddychymyg

Hen gân Max Boyce, sdim aria nac emyn

Dim ond sŵn cyd-ganu o'r cegau di-ymdrech

Cefnogwyr un-donog y Scarlets a'r Elyrch

Ac mae'r radio yn chwarae Ysbryd y Nos

Drosodd a drosodd a drosodd a drosodd

Efo Edward H. Dafis, mae unwaith yn ormod

A sai am fod yn fod yn dyst i esgyrn yn canu emynau

Am fywyd tragwyddol ar ôl eu beddau

Maent am tocynnau cwbl hunanol i'r nefoedd

Neu cymrwch sioe dalent heb talent

Sy'n boblogaidd gan y cyhoedd

Diffyg unrhyw sbarc reit lawr y blynyddoedd

A tu mewn fi casineb, sy'n gwbl gwrthrychol

Am Alun Hdodinott, a ffycin Glastonbury

Miwsig gwael yn y cefndir ble bynnag chi'n mynd i

Yn llygru eich meddwl ar draws y tonfeddau

Er enghraifft, y cachu ar Radcliffe a Maconie

Rhowch i mi John Lydon yn canu Only The Lonely

Sut mae'r rheolwyr a'r DJs yn gallu cyfiawnhau eu cyflog pan maent yn darparu cyfog?