Am y geiriau crap fel Cnapan

Am yr eisteddfodau dafarn

Am fy hun yn gwylio'r cloc

Am yr hagrwch opera roc

Am y grwpiau sy' ar daith

Am fy rhagfarnau'n mynd yn waeth

Am y merched sa'i di cael

Am y linell uchod wael

A dyma pam rwy'n smygu

Ac yn ysgrifennu

Ar fy ngwibdaith o gwmpas bwced

Am y crap mewn dillad celf

Am y dwli drama gerdd

Am fod dawnsio mor uffernol

A jôc mawr yw pob dyfodol

Sai'n gwybod pam rwy'n cario 'mlaen

Na, rwy'n gwybod pam rwy'n cario 'mlaen

Y gobaith o weld cantorion Calon Lân

Yn cael eu toddi i saim

A dyma pam rwy'n smygu

Ac yn ysgrifennu yn lle pydru

Ar fy mordaith mewn bwced

Am yr un nath sgrewio Mair

Am fod cymdeithas ond yn ffair

Am eich cariadon ac am chi

Am y profiadau sy'n fy ngladdu

Sai'n gwybod pam rwy'n cario mlaen

Na, rwy'n gwybod pam rwy'n cario mlaen

Y gobaith o weld cantorion Calon Lân

Yn cael eu toddi i saim

A dyma pam rwy'n smygu

Ac yn ysgrifennu

Ar fy ngwibdaith o gwmpas bwced

Pob noson Haf a melys

Chwiliais am yr esgus

I adael rhai'n anadlu