Lawr yn y bôn

Ymhob cell o fy esgyrn

Rwy'n ffugio fy chwerthin

Ac rwy'n fyr o fy anadl

O'n i'n 23 dydd Llun

Ac rwy'n teimlo ac edrych fel Jock Stein

Mae eich uchelgeisiau o ddifri' mor ddigri

Ac rwy'n gallu gweld ble chi'n mynd i

O'n i'n 23 dydd Llun

Ac rwy'n teimlo ac edrych fel Jock Stein

Sylweddolais rhy gynnar

O'n i'n fastard bach clyfar

Ond nawr rwy'n oer ac aflonydd

Ac am wneud menyn o f'ymennydd

O'n i'n 23 dydd Llun

Ac yn barod rwy'n teimlo ac edrych fel Jock Stein

O'n i'n 23 dydd Llun

Ac yn barod rwy'n teimlo ac edrych fel Jock Stein