Pontypridd

By 9bach

Thumbnail

Ym Mhontypridd mae 'nghariad

Ym Mhontypridd mae 'mwriad

Ym Mhontypridd mae'r ferch fach hardd

I'w chael o flaen y 'ffeiriad

Mi hela i heddiw unswllt

Mi hela i fory ddeuswllt

A chyn y colla i merch ei mam

Mi dria i am y triswllt

Mi glywais lawer caniad

Mi welais lawer bwriad

Mi welais lawer menyw lan

Ond neb mor lan a 'nghariad

Mae 'mwthyn ger yr afon

Mae gen i wartheg blithion

Mae gen i fferm ar lannau'r Taf

O tyred ata i, gwenfron